Gweddïau: Dyddiau'r Catgoriau
Colect 351
Dros weinidogaeth pob Cristion:
Hollalluog a thragwyddol Dduw,
y llywodraethir ac y sancteiddir
holl gorff yr Eglwys gan dy Ysbryd:
gwrando ein gweddi a off rymwn dros dy holl bobl ff yddlon,
fel y gallant, yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth,
dy wasanaethu di mewn sancteiddrwydd a gwirionedd
er gogoniant i’th enw;
trwy ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
Duw yn oes oesoedd.
neu dros bawb sydd i’w hordeinio:
Hollalluog Dduw, rhoddwr pob dawn dda,
trwy dy Ysbryd Glân gosodaist
amryw raddau o weinidogion yn yr Eglwys:
edrych yn drugarog ar dy was/wasanaethferch (wasanaethyddion)
a elwir yn awr i fod yn ddiacon(iaid)/off eiriad(iaid)/esgob;
cadw ef/hi/hwy yn y gwirionedd ac adnewydda ef/hi/hwy mewn sancteiddrwydd,
fel, trwy air ac esiampl dda,
y’th wasanaethant yn ff yddlon
er gogoniant i’th enw ac er lles dy Eglwys;
trwy haeddiannau ein Gwaredwr Iesu Grist
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi yn undod yr Ysbryd Glân,
Duw yn oes oesoedd.
neu am alwedigaethau i Urddau Sanctaidd:
Hollalluog Dduw,
ymddiriedaist i’th Eglwys
gyfran yng ngweinidogaeth dy Fab ein Harchoff eiriaid mawr:
ysbrydola galonnau llawer
trwy dy Ysbryd
i off rymu eu hunain i’w hordeinio yn dy Eglwys,
fel, trwy gryfder ei nerth,
y gweithiant i hyrwyddo dy deyrnas
a chanu mawl tragwyddol i’th enw;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
Duw yn oes oesoedd.
neu ar gychwyn gweinidogaeth newydd:
Dduw ein Tad, Arglwydd yr hollfyd,
trwy dy Fab gelwaist ni i gymdeithas
dy Eglwys fyd-eang:
gwrando ein gweddi dros dy bobl ff yddlon
fel y bo iddynt yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth
fod yn galwad dy gariad;
a dyro i’th was/wasanaethferch E.
sydd yn awr i’w sefydlu
ddoniau angenrheidiol gras;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gweddi Ôl-Gymun 352
Dad nefol,
rhoddodd dy Fab esgynedig ddoniau arweiniad a gwasanaeth i’r Eglwys:
atgyfnertha ni sydd wedi derbyn y bwyd sanctaidd hwn
i fod yn stiwardiaid da o’th ras amrywiol,
trwy’r hwn a ddaeth nid i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu,
gan roi ei fywyd yn bridwerth dros lawer,
Iesu Grist ein Harglwydd.
neu
Arglwydd y cynhaeaf,
maethaist dy bobl yn y sacrament hwn
â ff rwythau’r greadigaeth a sancteiddiwyd gan dy Ysbryd:
trwy dy ras cyfod yn ein plith weithwyr ff yddlon
i hau dy air ac i fedi cynhaeaf eneidiau;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Gweddi i gyflwyno’r rhoddion
Dduw, ein nerth a’n gwaredwr,
fe’n gelwi i roi o’r neilltu yr hyn a aeth heibio
ac i’th ddilyn di lle bynnag yr arweini;
derbyn y rhoddion hyn er lles pawb o’th bobl ffyddlon.
Gan ddilyn ôl traed ein Harglwydd Iesu Grist,
bydded inni amlygu dy gariad mewn gair a gweithred,
drwy’r un Iesu Grist, dy Fab, ein Harglwydd ni. Amen.