Gweddïau: Ffransis de Sales (1622), Esgob Genefa ac Athro'r Ffydd
24 Ionawr
Colect 151
Dduw sanctaidd,
a elwaist dy esgob Ffransis
i ddwyn llawer at Grist trwy ei fywyd defosiynol
ac i adnewyddu dy Eglwys ag amynedd a dealltwriaeth:
caniatâ i ninnau fedru, ar air ac ar weithred,
arddangos dy addfwynder a’th gariad i bawb a gyfarfyddwn;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.