Gweddïau: Francis Xavier (1552), Cenhadwr
3 Rhagfyr
Colect 318
Dduw ein Tad,
a ddygaist lawer o genhedloedd Asia atat dy hun
trwy bregethu dy was Francis;
dyro ei sêl ef dros y Ffydd i bawb sy’n credu ynot ti,
fel y bydd i’th Eglwys lawenhau wrth iddi barhau i dyfu;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes