Gweddïau: George Herbert (1633), Offeiriad a phob Bugail
27 Chwefror
Dduw tosturiol,
diolchwn iti heddiw am dy was, George Herbert,
ac am y doniau a’r bendithion niferus a roddaist ti iddo.
Cofiwn yn arbennig am ei gyfraniad i ddiwinyddiaeth fugeiliol
a diolchwn am iddo weld bod angen cyfrol o gyngor ymarferol i glerigion
na chawsant ond hyfforddiant ffurfiol academaidd.
Cofiwn fod George yn ymhyfrydu mewn iaith
a’i fod yn gweld angen a dioddefaint drwy lygaid bardd.
Gweddïwn am dy gymorth i ystyried y sefyllfa wrth inni ymarfer ein diwinyddiaeth.
Portha ein dirnadaeth â gwybodaeth o’r Ysgrythur a dysgeidiaeth yr Eglwys
fel y gallwn ddwyn ynom dy gariad a’th wirionedd wrth ymateb i heriau bywyd,
drwy Iesu Grist ein Harglwydd
a roddodd inni ei Ysbryd Glân fel na fyddem yn ddigysur. Amen.
Colect 167
Frenin y gogoniant, Brenin tangnefedd,
a elwaist dy was George Herbert
o chwenychu anrhydeddau bydol
i fod yn offeiriad yn nheml ei Dduw a’i Frenin:
caniatâ i ninnau’r gras i off rymu ein hunain
i’th wasanaeth di â chalon unplyg ac ufudd-dod gostyngedig;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.