Gweddïau: Dydd Gwener Y Groglith
Duw cariad,
wrth i ni sefyll ar waelod y Groes,pan ddaw'r awr i Iesu dy ogoneddu.
Gweddïwn dros y llefydd lle mae tywyllwchyn dal i orchuddio'r ddaear.
Agora ddrysau dy Gysegr,
fel y gall pob Cristion, wrth ddilyn Iesu,
ystyried mawredd y gogoniant tragwyddol yr wyt ti'n cynnig.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw cariad,
wrth i ni sefyll ar waelod y Groes,
cadw ein golwg ar Iesu.
Helpa ni i weld y boen, yr anobaith a'r gwrthodiad a ddioddefodd Iesu drosom ni.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 57
Hollalluog Dad
edrych yn drugarog ar dy deulu yma
y bu Iesu Grist ein Harglwydd yn barod i gael ei fradychu er ei fwyn
a’i draddodi i ddwylo pechaduriaid
a dioddef angau ar y groes;
sy’n fyw ac wedi ei ogoneddu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr a hyd byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes