Gweddïau: Ioan, Apostol ac Efengylwr
27 Rhagfyr
Arglwydd Dduw,
diolchwn heddiw am ddysgeidiaeth Ioan yr Efengylwr
a ddatgelodd ddirgelwch mawr yr Ymgnawdoliad.
Helpa ni i dderbyn a chydnabod Iesu Grist, y Gair a wnaed yn gnawd,
fel y goleuir ein calonnau a chalonnau’r ddynoliaeth gyfan â’i oleuni disglair.
Gofynnwn hyn yn ei enw mwyaf gogoneddus. Amen.
Arglwydd trugarog,
wedi ein goleuo gan ddysgeidiaeth
dy apostol a'r efengylydd gwynfydedig Ioan,
boed i ni rodio yng ngoleuni dy wirionedd
a chyrraedd yn y diwedd oleuni’r bywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist, ein Harglwydd
yr hwn trwy nerth yr Ysbryd
a gyfodaist i fyw gyda thi,
yn oes oesoedd. Amen.
Colect 332
Arglwydd trugarog,
caniatâ i’th belydrau disglair o oleuni lewyrchu ar yr Eglwys;
fel, wedi ein goleuo gan ddysgeidiaeth
dy apostol a'r efengylydd gwynfydedig, Ioan,
y gallwn rodio yng ngoleuni dy wirionedd
a chyrraedd yn y diwedd oleuni’r bywyd tragwyddol
trwy Iesu Grist,
dy Fab ymgnawdoledig ein Harglwydd,
yr hwn trwy nerth yr Ysbryd
a gyfodaist i fyw gyda thi,
ei Dduw a’i Dad,
yn oes oesoedd.