Gweddïau: Ioan Chrysostom (407), Esgob a Dysgawdwr y Ffydd
27 Ionawr
Colect 155
Dduw gwirionedd a chariad,
a roddaist i’th was Ioan Chrysostom
huodledd i gyhoeddi dy gyfi awnder yn y gynulleidfa fawr
a’r dewrder i ddioddef gwaradwydd er anrhydedd i’th enw:
caniatâ yn rasol i’r rhai sydd yn cyhoeddi dy air
fedru pregethu mor huawdl
fel y gall pawb gyfranogi gyda hwy
o'r gogoniant a ddatguddir
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr un Duw, yn awr ac am byth.