Gweddïau: Ioan o Fiesole (1455), Offeiriad ac Andrei Rublev (c1430), Mynach; Artistiaid
18 Chwefror
Dduw harddwch a sancteiddrwydd,
diolchwn i ti am ddwyn i fyny ym mhob cenhedlaeth arlunwyr ac eiconograffwyr
a geisiodd gyfleu rhyw agwedd ar ddirgelwch y Duwdod drwy arluniaeth a chrefft.
Diolchwn iti am harddwch, sancteiddrwydd a gwirionedd y gweithiau a baentiwyd
gan Fra Angelico ac Andrei Rublev,
a ysgogodd bobl i’th addoli a’th ogoneddu.
Wrth inni gael cipolwg ar dy bresenoldeb mawrwych mewn arluniaeth
helpa ni i fod yn agored i gael ein ffurfio a’n llunio gan dy ras,
oherwydd ti yw’r crochenydd a ni yw y clai,
ti yw’r arlunydd a ni yw’r gynfas wag,
ti yw’r cerflunydd a ni yw’r cerrig geirwon, nadd.
Drwy Iesu Grist ein Harglwydd,
mewn undod â’r Ysbryd Glân,
ysbrydolwr pob harddwch. Amen.
Colect 163
Dad Grasol
a roddaist i ni
yn nirgelwch y Gair a wnaed yn gnawd
weledigaeth newydd a disglair o’th ysblander:
caniatâ i ni, gan ddilyn esiampl Ioan ac Andrei
allu dirnad dy brydferthwch ynddo ef
fel y gallwn gyfeirio eraill yma ar y ddaear
at y pethau hynny sydd y tu hwnt i’r dychymyg;
gofynnwn hyn trwy’r un Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y byddo’r holl anrhydedd a’r gogoniant,
yn awr ac am byth.