Gweddïau: Ioan y Groes (1591), Offeiriad, Bardd ac Athro'r Ffydd
14 Rhagfyr
Colect 323
O Dduw, barnwr pawb oll,
a roddaist i’th was Ioan y Groes
gynhesrwydd natur, cryfder pwrpas a ff ydd gyfriniol
a’i cynhaliodd ef hyd yn oed yn y tywyllwch:
tywallt dy oleuni ar bawb sydd yn dy garu
a dyro iddynt undeb corff ac ysbryd
yn dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.