Gweddïau: Lleucu (304), Merthyr
13 Rhagfyr
Dduw ein Hiachawdwr,
a roddaist oleuni i fyd oedd mewn tywyllwch
trwy nerth iachusol croes y Gwaredwr:
gweddïwn arnat dywallt ei oleuni fe arnom,
fel, gyda’th ferthyr Lleucu,
y cawn ninnau trwy burdeb ein bywydau adlewyrchu goleuni Crist
a thrwy haeddiannau ei ddioddefaint
ddod at oleuni’r bywyd tragwyddol;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Gweddi wrth gynnau Canhwyllau
Gellir rhoi canhwyllau i’r bobl a’u cynnau naill ai wrth ganu emyn / cân addas ac yna dweud y weddi isod, neu gellir hepgor y canu a’u cynnau tra dywedir y weddi:
Dad y gogoniant, sanctaidd a thragwyddol,
boed i’r goleuni a lanwodd Santes Lleucu,
goleuni Iesu dy Fab,
lanw’r lle hwn lle’r ydym ni,
a goleuo ein calonnau a’n meddyliau.
Wrth inni baratoi i ddathlu geni Iesu
boed i bob cwr o’n bywydau dywynnu â gobaith
a llewyrchu â chariad Iesu
sy’n Arglwydd yn oes oesoedd. Amen.
Ar yr awr dywyllaf, Arglwydd Dduw,
fe dyr dy Wawr Ddisglair arnom ni,
gan chwalu’r cysgodion
a rhoi terfyn ar dywyllwch y nos.
Wrth inni ddathlu bywyd Santes Lleucu
a fu, yn wyneb perygl ac angau, yn ffyddlon i’w galwad,
gweddïwn i oleuni dy gariad ein harwain ni i weld prydferthwch dy wirionedd,
ac agor ein llygaid i ganfod presenoldeb dy Fab,
y bo iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân
bob anrhydedd a gogoniant, yn awr ac am byth.