Gweddïau: Dydd Iau Cablyd
Duw'r Bydysawd
Anfonaist Iesu i baratoi ffordd tangnefedd ar ein cyfer.
Helpa ni i glywed gweddi Iesu,
fel y gallwn ni i gyd fod yn un,
fel rwyt ti'n un hefo Iesu a'r Ysbryd Glân.
yn awr ac am byth. Amen.
Duw cariad,
wrth i ni deithio i’r Groes,
cadw ein golwg ar Iesu.
Helpa ni i fod yn bobl ostyngedig,
sy’n ymroi i ddilyn Iesu, ein Harglwydd a'n Hathro.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 55
Dduw ein Tad,
gwahoddaist ni i gyfranogi o’r swper
a roes dy Fab i’w Eglwys
i gyhoeddi ei angau nes y daw drachefn:
bydded iddo ein maethu â’i bresenoldeb,
a’n huno yn ei gariad ef;
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes