Gweddïau: Sul y Fam
Arglwydd pob doethineb,
Heddiw, rydym ni'n oedi i ddathlu'r menywod anhygoel sydd yn ein bywydau.
Diolchwn i ti am yr holl famau sy'n ein meithrin â chariad diderfyn,
gan ein tywys trwy heriau bywyd gyda nerth a gras.
Rydym hefyd yn anrhydeddu'r menywod nad oes ganddynt blant eu hunain
ond sydd wedi rhannu eiliadau mamol, gan gynnig caredigrwydd, cefnogaeth a doethineb i'r rhai o'u cwmpas.
I'r plant sy'n cario'r boen o golli eu hannwyl fam,
rydym yn eu cyflwyno ger Dy fron, gan ofyn am gysur a heddwch.
Boed i atgofion o gariad a chwerthin eu cofleidio,
a’u hatgoffa na ellir torri'r cysylltiadau hynny byth.
Diolchwn i Ti am y rhodd o gariad diamod sy'n adlewyrchu hanfod mamolaeth.
Helpa ni i gario'r cariad hwnnw ymlaen, a’i rannu ag eraill yn ein ffyrdd unigryw ein hunain. Amen.
Duw yn y nefoedd,
diolchwn i ti am rodd werthfawr o gariad,
a dderbyniwn gan ein Mamau, teulu a ffrindiau.
Diolchwn i ti am y gallu i ofalu,
meithrin a charu a osodaist yn ddwfn ynom.
Helpa ni i ddefnyddio'r rhoddion hyn
er lles ein teuluoedd a'n ffrindiau
ac i gadw ein golwg ar Iesu,
sy’n ein caru ni gymaint,
fel y rhoddodd ei fywyd drosom ni. Amen.
Colect 50
Dduw tosturi,
y bu i’th Fab Iesu Grist, plentyn Mair,
gyfranogi o fywyd cartref yn Nasareth,
ac a ddug y teulu dynol cyfan ato’i hun ar y groes,
cryfha ni yn ein byw beunyddiol
fel y gallwn, mewn llawenydd ac mewn gofid,
brofi nerth dy bresenoldeb
i rwymo ynghyd ac i iacháu;
trwy Iesu Grist, ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.