Gweddïau: Nicolas, Esgob
6 Rhagfyr
Dduw ein Tad,
ceraist y byd gymaint nes iti roi dy unig Fab, Iesu Grist,
a’n dysgodd i garu ein gilydd fel y carodd ef ni.
Yr wyt yn parhau i fendithio’r byd
drwy godi pobl sanctaidd y mae eu bywydau yn datguddio dy deyrnas o oleuni a chariad.
Diolchwn iti am Sant Nicolas
y cawn ein hysbrydoli gan ei gariad a’i haelioni hyd at y dydd hwn.
Boed i’w esiampl ef o sancteiddrwydd a chariad hunan-roddedig
ein hysgogi ni i roi fel y gwnaethom ni dderbyn.
Gofynnwn hyn drwy Iesu Grist ein Harglwydd,
y bo iddo, gyda thi a’r Ysbryd Glân,
bob anrhydedd a gogoniant, yn awr ac am byth. Amen.
Gweddi o Fendith wrth roi Orenau neu Anrhegion eraill
Dduw ein Tad cariadus,
wrth inni baratoi at dymor ewyllys da,
ysbrydola ni, yn union fel Sant Nicolas, i fyw yn hael i eraill,
i estyn allan i’r anghenus
a dwyn goleuni i’r rhai sydd mewn tywyllwch.
Bendithia ni a phawb sy’n derbyn yr orenau hyn,
arwydd o felyster dy gariad,
fel y cawn fedi cynhaeaf o hedd a llawenydd
a dwyn ffrwyth cariad Iesu yn ein bywydau.
Gofynnwn hyn drwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Gweddi o Fendith wrth Roi Darnau Arian neu Anrhegion eraill
Dduw ein Tad,
mae goleuni’r Nadolig yn torri ar y gorwel,
mae’r nos yn ildio ei lle i lewyrch dyfodiad dy Fab i’r byd.
Bendithia ni a phawb sy’n derbyn y darnau arian hyn.
Boed iddynt ddwyn i’n cof haelioni a charedigrwydd Sant Nicolas
a’r cymorth a roddodd mor eiddgar i’r rhai oedd mewn trafferth neu angen.
Cynorthwya ni i arfer ein doniau i greu byd o heddwch a chariad.
Boed i ni fod yn arwyddion o obaith mewn byd diobaith,
ffaglau disglair o olau lle bo tywyllwch yn taflu ei gysgod.
Gofynnwn hyn drwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Gweddi o Fendith wrth ddarparu Rhoddion i’r Tlodion
Dduw ein Tad,
darostyngwyd dy Fab, Iesu Grist, er ein mwyn ni;
fe’i gwacaodd ei hun o ogoniant
a dyfod ar wedd dynion.
Estynnodd drugaredd ei galon i’r rhai anghenus,
daeth â newyddion da i dlodion
ac unionodd y gwargam.
Am mai’r un yw cenhadaeth yr eglwys heddiw
estynnwn ninnau allan at bawb sydd mewn angen.
Gan ddwyn i gof esiampl Sant Nicolas
a ymrwymodd i weithredoedd o elusen a chariad,
bendithia bawb sy’n derbyn y rhoddion hyn
fel y’u llenwir â llawenydd
a chael popeth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau llawn a llesol.
Gofynnwn hyn drwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Amserau a Thymhorau: Adfent i Gyflwyniad Crist
Colect 319
Dad Hollalluog,
carwr eneidiau,
a ddewisaist dy was Nicolas i fod yn esgob yn yr Eglwys,
er mwyn iddo rannu trysorau dy ras yn hael:
gwna ni’n ymwybodol o anghenion eraill,
ac fel yr ydym wedi derbyn, dysg ni hefyd i roi;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.