Gweddïau: Non (5ed ganrif), Mam Dewi Sant
5 Mawrth
Colect 170
Dduw ein Tad,
a ymddiriedaist dy unig genedledig Fab
i ofal mam ddaearol
fel y cyfarwyddai ei gamau cyntaf ar hyd llwybrau ffydd a chariad;
caniatâ i ninnau sydd yn parchu mam ein nawddsant Dewi
weithio i godi cenhedlaeth newydd i barchu a charu dy enw;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y byddo’r holl anrhydedd a gogoniant,
yn awr ac am byth.