Gweddïau: O Adonai!
18 Rhagfyr
Colect 325
O Arglwydd ein Duw,
gwna ni’n wyliadwrus a chadw ni’n ffyddlon
wrth inni ddisgwyl dyfodiad ein Harglwydd:
fel, pan ymddengys,
na chawn ein hunain yn cysgu mewn pechod
ond yn weithgar yn ei wasanaeth
ac yn ei foli’n llawen:
gofynnwn hyn trwy’r hwn y mae ei ddyfodiad yn sicr,
y mae ei ddydd yn agosáu,
Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y bo’r holl anrhydedd a gogoniant yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes