Gweddïau: Rhys Prichard (1644), William Williams (1791), ac Isaac Williams (1865)
11 Ionawr
Colect 145
O Dduw ein Goleuni a’n Gwaredwr,
ein Ceidwad a’n Harweinydd,
llewyrcha dy oleuni arnom a gwrando arnom pan alwn arnat:
ac fel yr arweiniaist Rhys, William ac Isaac
fel pererinion drwy’r anialwch,
felly arwain ninnau i’r fan lle, gyda hwy,
y cawn off rymu caneuon a mawl i ti am byth;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y bo’r holl anrhydedd a’r gogoniant yn awr ac am byth.