Gweddïau: Steff an, Diacon a'r Merthyr Cyntaf
26 Rhagfyr
Arglwydd Dduw, coffawn heddiw farwolaeth Steffan,
y merthyr o Gristion cyntaf, a chofiwn ei fod wedi gofyn am faddeuant i’w lofruddion wrth iddo farw:
Dyro inni’r nerth i beidio byth ag ofni dioddef er mwyn y Ffydd ac i weddïo’n gyson dros y rhai sy’n ein casáu.
Gofynnwn hyn yn enw dy Fab,
ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
Duw’r bydysawd,
a roddaist i’r merthyr cyntaf Steffan
ras i weddïo dros y rhai oedd yn ei labyddio;
caniatâ i ni wrth ddioddef dros y gwirionedd,
ddysgu caru hyd yn oed ein gelynion
a cheisio maddeuant i’r rhai sydd am beri loes i ni
gan edrych i’r nef at Iesu,
yr un sydd yn fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Colect 331
Dad grasusol,
a roddaist i’r merthyr cyntaf Steffan
ras i weddïo dros y rhai oedd yn ei labyddio;
caniatâ i ni wrth ddioddef dros y gwirionedd,
ddysgu caru hyd yn oed ein gelynion
a cheisio maddeuant i’r rhai sydd am beri loes i ni
gan edrych i’r nef ato ef a groeshoeliwyd er ein mwyn,
Iesu Grist, ein Cyfryngwr a’n Heiriolwr,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.