Gweddïau: Tröedigaeth Paul, Apostol
25 Ionawr
Arglwydd Dduw,
drwy ddysgeidiaeth yr apostol Paul,
y dathlwn ei droedigaeth ryfeddol heddiw,
peraist i oleuni’r Efengyl lewyrchu drwy’r byd.
Helpa ni i’w ddilyn ef drwy dystiolaethu i’th wirionedd.
Gofynnwn hyn drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Colect 153
Hollalluog Dduw
a barodd i oleuni’r efengyl
lewyrchu trwy’r holl fyd
trwy bregethu dy was Sant Paul,
caniatâ i ni sy’n dathlu ei dröedigaeth ryfeddol
ei ganlyn trwy dystiolaethu i’th wirionedd
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
y bo iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân
bob anrhydedd a gogoniant,
yn awr ac am byth.