Gweddïau: Pumed Sul Y Garawys ~ Sul y Dioddefaint
Duw cariad,
wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Bydded i'n bywydau gyhoeddi mai Iesu yw'r Meseia,
yr Atgyfodiad a'r Bywyd,
fel y gallwn un diwrnod gyrraedd dy Deyrnas yn y Nefoedd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw cariad,
wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Eneinia ni â’th gyffyrddiad addfwyn,
fel y gallwn dy foli a’th ddilyn yn y bywyd hwn
ac un diwrnod cyrraedd dy Deyrnas yn y Nefoedd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 51
Drugarocaf Dduw,
a waredaist ac a achubaist y byd
drwy angau ac atgyfodiad dy Fab Iesu Grist:
caniatâ i ni drwy ff ydd ynddo ef
a ddioddefodd ar y groes,
orfoleddu yn nerth ei fuddugoliaeth;
trwy Iesu Grist, ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes