Gweddïau: Bedydd Crist (Yr Ystwyl Un)
Arglwydd Iesu,
diolchwn am dy ostyngeiddrwydd
pan ofynnaist i Ioan dy fedyddio yn yr Iorddonen.
Llawenhawn fod yr Ysbryd wedi dod atat,
yn addfwyn fel colomen a bod y Tad wedi ymhyfrydu ynot, ei annwyl Fab.
Tyrd gyda ni i ddyfroedd ein bywyd beunyddiol
wrth inni benderfynu eto i fyw yn ôl yr addunedau a wnaed yn ein bedydd.
Dal ni’n dynn rhag inni lithro a syrthio,
ac adnewydda ynom fywyd Duw yn yr Ysbryd Glân.
Tywys ni’n ddyfnach i gariad y Tad,
fel y gwyddom yn wastadol ein bod yn blant a gerir
ac yn gannwyll llygad Duw. Amen.
Gweddi ddistaw
O Dduw ein Tad,
bedyddiwyd dy Fab ein Harglwydd Iesu Grist
yn nyfroedd yr Iorddonen gan Ioan,
a’i eneinio â’r Ysbryd Glân.
Gofynnwn i ti fendithio’r dŵr hwn a ddefnyddiwn mewn ffydd.
Tywallt dy faddeuant arnom
a chyfnertha ni mewn sancteiddrwydd.
Dyro i ni ddŵr bywiol
sy’n tarddu yn wastadol o ffynnon iachawdwriaeth,
fel y’n harweinir ni gan Grist dy Annwyl Fab i’th bresenoldeb
â chalonnau pur.
Gofynnwn hyn drwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Duw'r bydysawd,
Tywallt dy Ysbryd arnom ni bob dydd.
Helpa ni i ddilyn dy ewyllys,
er mwyn i ti allu ymhyfrydu ynom ni.
Dyma’n gweddi yn enw Iesu. Amen.
Colect 19
Dad tragwyddol,
a ddatguddiaist ym medydd Iesu
ei fod yn Fab i ti,
gan ei eneinio â’r Ysbryd Glân:
caniatâ i ni a anwyd drachefn o ddŵr a’r Ysbryd,
lawenhau i gael ein galw yn blant i ti;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes