Gweddïau: Sul Cyntaf Y Garawys
Arglwydd tirion,
Pan fydd ein meddyliau yn ein dal yn gaeth a bywyd yn teimlo fel diffeithwch,
deffro ni i wirionedd Dy bresenoldeb diwyro.
Helpa ni i yfed yn ddwfn o dosturi a doethineb Crist,
gan ollwng yn rhydd y meddyliau sy'n ein brifo.
Gweddïwn am ryddid ac iachâd i’r rhai sy'n gaeth
i feddyliau cas o gywilydd neu boen.
Wrth ddewis empathi, dewiswn Dy ryddid Di, gan gofleidio geiriau sy'n iacháu.
Wrth i ni ymryddhau o’n hangen am reolaeth,
boed i ni feithrin dealltwriaeth a chysylltiad.
Gyda'n gilydd, gad inni greu gofod lle mae cariad yn llifo'n rhydd,
ac yn trawsnewid ein calonnau a'n cymuned. Amen.
Duw cariad,
Wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Helpa ni i wrthod y temtasiynau on blaenau,
er mwyn i ni dyfu yn agosach i ti bob dydd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw cariad,
Wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Helpa ni i osod temtasiynau o’r neilltu,
er mwyn i ni dyfu yn debycach i Iesu bob dydd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 42
Hollalluog Dduw,
yr ymprydiodd dy Fab Iesu Grist ddeugain diwrnod yn yr anialwch,
a’i demtio fel ninnau, ond eto heb bechod,
dyro inni ras i ddisgyblu ein hunain
mewn ufudd-dod i’th Ysbryd;
a chan wybod am ein gwendid,
bydded i ni felly adnabod dy allu achubol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes