Gweddïau: Pedwerydd Sul cyn Y Garawys
Iesu, ein Harglwydd a’n Gwaredwr,
fe’th anwyd mewn dull rhyfedd:
mewn beudy llwm am nad oedd lle i ti.
Rhoddwyd iti anrhegion drud gan ddoethion o lwyth, iaith a ffydd arall,
a ddaeth i wybod amdanat drwy gyfrwng seren ac a deithiodd yn bell i’th groesawu.
Cefaist dy gludo yn y dirgel i’r Aifft er mwyn dy ddiogelu: yn alltud mewn gwlad ddieithr.
Maddau inni Arglwydd pan galedwn ein calonnau yn erbyn dieithriaid, a thi yn un ohonynt.
Dygwn o’th flaen drallodion y rhai sy’n wynebu gelyniaeth am y credir eu bod yn wahanol,
gan gofio’n arbennig heddiw yr angen am gyfiawnder hiliol. Dyro i’r Ysbryd Glân ein cyffroi i weithio am degwch, cyfiawnder a thosturi.
Cynorthwya ni i gofio mai dieithryn oeddet ti unwaith
a helpa ni i barchu urddas pob dieithryn wrth inni anrhydeddu dy fawredd.
Gweddïwn y cyfan hyn er gogoniant i Dduw, a’n gwnaeth ni oll. Amen.
Duw yn y nefoedd,
‘Gwyn eich byd’ datganodd yr Iesu
wrth fendithio’r rhai mewn angen.
Helpa ni i gael gwared â'r gwaeau
a rhwystrau yn ein bywydau,
fel y gallwn fod yn fendith i'n cymunedau,
sef dy deyrnas di yma ar y ddaear.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 31
O Dduw,
gwyddost i ni gael ein gosod
mewn cynifer o beryglon,
fel na allwn, oherwydd gwendid ein natur,
sefyll bob amser yn uniawn:
caniatâ i ni y fath nerth a nodded
ag a’n cynorthwya ym mhob rhyw berygl
a’n cynnal trwy bob profedigaeth;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.