Gweddïau: Pedwerydd Sul Yr Ystwyll
Duw'r bydysawd,
Roedd pobl yn llawenhau a diolch wrth adnabod Iesu.
Boed i Iesu ddisgleirio trwyom ni bob dydd,
fel y gellir cydnabod cariad a gofal Iesu a rhoddir diolch i ti.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw'r bydysawd,
diolchwn am y gwyrthiau lle
mae Iesu'n dangos dy nerth.
Helpa ni i fod yn win da i ti,
pobl sy'n datgelu dy gariad i'r byd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 25
Dduw y creawdwr,
a orchmynnodd yn y dechreuad
i’r goleuni ddisgleirio o’r tywyllwch,
gweddïwn ar i oleuni efengyl ogoneddus Crist
wasgaru tywyllwch anwybodaeth ac anghrediniaeth,
ddisgleirio yng nghalonnau dy holl bobl,
a datguddio yr adnabyddiaeth o’th ogoniant
yn wyneb Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.