Gweddïau: Pedwerydd Sul Y Garawys
Duw cariad,
wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Diolch am dy gariad diysgog drosom ni,
dy fod di yno bob amser i'n croesawu'n ôl
pan sylweddolwn ein hunanoldeb.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw cariad,
wrth i ni deithio i Jerwsalem,
agor ein llygaid i adnabod faint rwyt ti'n ein caru ni,
helpa ni i fod yn ddiolchgar am bopeth mae Iesu'n ei wneud drosom ni.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 48
Arglwydd Dduw,
y cyflwynodd dy fendigedig Fab ein Gwaredwr
ei gefn i’r fflangellwyr
ac na chuddiodd ei wyneb rhag gwarth,
dyro i ni ras i ddwyn dioddefi adau yr amser presennol hwn
yn llawn hyder yn y gogoniant sydd i’w ddatguddio;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gellir defnyddio’r Colect hwn ar ddyddiau’r wythnos wedi pedwerydd Sul y Garawys.
Dduw trugarog,
gollwng dy bobl oddi wrth eu camweddau,
fel y gallwn trwy dy ddaioni haelionus fod oll yn rhydd
O gadwynau’r pechodau hynny
a gyflawnwyd gennym oherwydd ein llesgedd;
caniatâ hyn, Dad nefol,
er mwyn Iesu Grist, ein Harglwydd bendigedig a’n Hiachawdwr,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes