Gweddïau: Gŵyl y Diniweidiaid
28 Rhagfyr
Arglwydd Dduw, cofiwn heddiw am laddedigaeth plant
diniwed Bethlehem gan y Brenin Herod.
Dyro inni ras i fod yn ddiniwed yn ein bywyd
a chyson yn ein ffydd hyd at farwolaeth,
er gogoniant i’th enw sanctaidd. Amen
Duw’r bydysawd,
y dioddefodd dy blant ar ddwylo Herod:
o’th allu nerthol rhwystra bob cynllun anfad
a gosod sylfaen dy deyrnasiad o gyfiawnder, o gariad a heddwch;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd, sydd yn fyw
ac yn ternasau gyda thi yn undod yr Ysbryd Glan,
yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Colect 333
Nefol Dad,
y dioddefodd dy blant ar ddwylo Herod:
o’th allu nerthol rhwystra bob cynllun anfad
a gosod sylfaen dy deyrnasiad o gyfi awnder, o gariad a heddwch;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd, sydd yn fyw ac yn ternasau gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glan, yn un Duw, yn awr ac am byth.