Gweddïau: Cyflwyniad Crist (Gŵyl Fair y Canhwyllau)
2 Chwefror
Dad nefol,
a roddodd dy Fab yn oleuni i oleuo’r Cenhedloedd
ac yn ogoniant i’th bobl Israel:
cynnal ac arwain dy eglwys,
ac edrych yn drugarog ar y cenhedloedd,
gan newid calonnau sy’n dymuno trais a gorthrwm,
a rhoi i bawb ddyhead am gyfiawnder ac uniondeb,
ynghyd â heddwch yn fendith.
Trugarha wrth y sawl sy’n teimlo’n wan a thlawd,
a thosturia wrth y rhai sydd dan ormes ecsbloetio,
fel y gall dy gariad gyrraedd y rhai sydd dy angen di fwyaf,
a dynoliaeth lawenhau yn dy iachawdwriaeth;
drwy Iesu Grist, y cyflawnir ynddo dy addewidion di. Amen.
Molwn a bendithiwn di, O Dad,
oherwydd goleuaist y byd drwy roi dy Fab
a ddaeth i rannu ein dynoliaeth a’n rhyddhau.
Bydded i ni, sy’n dal y canhwyllau hyn,
rodio yn llawenydd ei bresenoldeb
a chan ganu ei glodydd,
ei gyhoeddi’n Frenin y gogoniant.
Gofynnwn hyn drwy yr un Crist ein Harglwydd. Amen.
O Dduw ein Tad,
o oes i oes ac ym mhob cenhedlaeth
arweiniaist dy bobl o dywyllwch i oleuni.
Yn awr, yng Nghrist, mae disgleirdeb dy oleuni
yn llewyrchu drwy’r holl fyd.
Wrth i ni gario’r canhwyllau hyn
gwared ni o afael y tywyllwch
fel y cawn esgyn i gyfarfod â’r Arglwydd,
sy’n dyfod mewn gostyngeiddrwydd i ryddhau ei bobl.
Gofynnwn hyn drwy Grist ein Harglwydd. Amen.
O Dduw ein Tad, ffynhonnell pob goleuni,
heddiw amlygaist i Simeon
oleuni dy ddatguddiad i’r cenhedloedd.
Bydded i ni sy’n cario’r canhwyllau hyn,
rodio fel plant y goleuni
â fflam y ffydd yn fyw yn ein calonnau,
fel pan ddaw’r Arglwydd
y byddwn yn barod i’w groesawu.
Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Duw'r bydysawd,
Fel y cyflwynwyd dy Fab Iesu yn ostyngedigyn y Deml gan ei rieni ddaearol,
bydded i ni bob amser ddod i’th bresenoldeb gyda gostyngeiddrwydd a chalonnau pur a glân.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 27
Hollalluog a bythfywiol Dduw,
sy’n gwisgo mawredd,
y cyflwynwyd dy annwyl Fab y dydd hwn yn y Deml,
yn sylwedd ein cnawd:
caniatâ i ninnau gael ein cyflwyno i ti
â chalonnau pur a glân,
gan dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gweddi Ôl-Gymun 28
Arglwydd, cyfl awnaist obaith Simeon ac Anna,
a gafodd fyw i groesawu’r Meseia:
bydded i ni, a dderbyniodd y rhoddion hyn sydd y tu hwnt i eiriau,
baratoi i gyfarfod â Christ Iesu pan ddaw
i’n dwyn i fywyd tragwyddol,
oherwydd y mae’n fyw ac yn teyrnasu, yn awr a hyd byth.