Gweddïau: Saint, Merthyron a Chenhadon Affrica
20 Chwefror
Dduw’r cenhadu,
diolchwn i ti am y tystion niferus a ysbrydolwyd gennyt ar gyfandir yr Affrig,
drwy’r oesoedd, sydd wedi cyfoethogi’r Ffydd Gristnogol gan eu bywyd a’u haberth.
Cofiwn am eu dewrder yn amser cynnar yr erledigaeth gan Diocletian,
eu derbyn o’r Ffydd Gristnogol er gwaethaf gwrthwynebiad eu cymunedau,
a’u teithiau cenhadol i Ewrop, a gyfoethogodd y byd Cristnogol a oedd yn datblygu.
Gweddïwn dros bawb sydd dan orthrwm heddiw o achos eu ffydd
a diolchwn am gyfraniad diwinyddion o’r ymylon sy’n rhoi i ni ddarlun llawnach o’th ogoniant yn y byd,
drwy Iesu Grist, Gwaredwr y byd cyfan. Amen.
Colect 165
Dduw yr holl genhedloedd,
gelwaist o blith pobl Affrica
saint, merthyron a chenhadon
a fu’n ffyddlon wrth dystiolaethu i’r gwirionedd:
trwy wasanaeth ac aberth
caniatâ i ni fod yn barod i fyw ac i farw
mewn cariad gwastadol at dy holl blant;
er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y byddo’r holl anrhydedd a’r gogoniant,
yn awr ac am byth.