Gweddïau: Saint, Merthyron a Chenhadon Ewrop
3 Chwefror
Colect 158
Hollalluog Dduw,
yr wyt yn galw dy dystion o bob cenedl
gan ddatguddio dy ogoniant yn eu bywydau:
gwna ni’n ddiolchgar am esiampl
y merthyron, y cenhadon a saint y cyfandir hwn,
a chryfhâ ni trwy eu cymdeithas
fel y bydd i ni, fel hwythau, fod yn ffyddlon
yng ngwasanaeth dy deyrnas;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
y bo’r anrhydedd a gogoniant, yn awr ac am byth.