Gweddïau: Ail Sul cyn Y Garawys
Sul y Greadigaeth ~ Secsagesima
Dduw’r Crëwr,
rhoddaist inni lyfr y byd naturiol fel y caem dy adnabod yn well,
fel y gallem rhyfeddu at dy ddyfeisgarwch a phlygu glin ger dy fawredd.
Lluniaist ni yn amrywiaeth helaeth a gwelaist fod y cwbl a wnaethost yn dda iawn.
Diolchwn iti a’th fawrygu am y rhodd o fywyd.
Yr ydym wedi niweidio harddwch y greadigaeth mewn cynifer o ffyrdd
ac wedi ecsbloetio adnoddau’r byd fel bod llawer gormod gan rai,
tra bo mamau’n wylo dros eu plant newynog.
Gweddïwn am y gras i obeithio am adfer cybwysedd y ddaear.
Gweddïwn am y dewrder i ddeall y gallwn ni wneud ein rhan,
pa mor fach neu ddi-nod bynnag yr ymddengys,
i ddeall mai gwneud yr hyn a allwn yw’r ffordd i weithredu ac,
fel stiwardiaid da, gwneud ychydig yn fwy.
Dyro inni ddirnad maes ein diddordeb , y gweithgaredd penodol,
lle gallwn ni lafurio’n gyson fel y gwneir gwahaniaeth i’n byd toredig.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu. Amen.
Duw'r bydysawd,
Mae Iesu'n tynnu sylw at ryfeddod y Creu.
Dysg ni i wir werthfawrogi ei ogoniant cywrain
ac i wneud popeth o fewn ein gallu i ofalu amdano.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw yn y nefoedd,
Rhoddaist ryfeddod y greu i ni.
Dysga ni i drysori a gofalu am y rhodd hon go iawn.
Dyma’n gweddi yn nerth enw’r Iesu,
yr un yr oedd y gwynt a’r môr
yn ufuddhau iddo. Amen.
Colect 35
Hollalluog Dduw,
creaist y nefoedd a’r ddaear
a’n creu ni ar dy ddelw dy hun:
dysg ni i ddirnad ôl dy law
yn dy holl waith
a’th lun yn dy holl blant;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
yr hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân
sy’n teyrnasu goruwch pob peth,
yn awr a hyd byth.