Gweddïau: Ail Sul Yr Ystwyll
Fel piser-dŵr gwag, o garreg,
safaf o’th flaen Arglwydd,
yn wag ac yn oer ar droad tywyll y flwyddyn,
ni wn y cynhwyster ac mae’r gwaddod a adawyd yn chwerw.
Ond yma y safaf ac aros,
a chlywaf yn awr gerddoriaeth yn llifo,
yn cynyddu’n uchel a chryf,
mae’r ddawns yn dechrau,
cyhoeddir diniweidrwydd newydd.
Ac felly, gyda bywyd yn adfywio daw llifolau newydd,
yn llawn i’r ymylon o ogoniant byrlymus.
Cymer yr hyn sy’n blaen
a threuliedig ynof fel y profaf eto felyster y cwpan yr wyt yn ei gynnig i mi. Amen.
Duw'r bydysawd,
Galwodd Iesu'r disgyblion i fod yn dystion
ac efengylwyr o’i fywyd a'i ogoniant.
Helpa ni yn yr un modd i’th ddatgelu di
a’th ogoniant drwy ein bywydau ni.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw'r bydysawd,
Mae gwyrthiau dy Fab yn datgelu dy ogoniant i ni.
Helpa ni i’th ddatgelu di a’th ogoniantdrwy ein bywydau ni.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 21
Hollalluog Dduw,
yng Nghrist yr wyt yn gwneud popeth yn newydd:
trawsff urfi a dlodi ein natur â chyfoeth dy ras,
ac yn adnewyddiad ein bywydau
gwna’n hysbys dy ogoniant nefol;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.