Gweddïau: Ail Sul Y Garawys
O Galon Dyner,
sy'n wylo dros y colledig ac yn cofleidio’r crwydredig â breichiau tyner,
deffro ynom gariad angerddol sy'n ddrych o’th gariad Di.
Pan fo lleisiau ofn ac amheuaeth yn galw arnom i beidio,
rho inni'r dewrder i godi, gan gofleidio bregusrwydd cysylltiad.
Na foed inni osgoi’r alwad i roi nodded i'r sawl sydd wedi torri,
gan gydnabod ar yr un pryd ein bod, ymhob coflaid,
yn darganfod grym Dy ras.
Gad i'n calonnau fod yn llydan agored,
fel y ddinas rwyt Ti’n dyheu i’w chodi,
wrth i ni blannu hadau gobaith ym mhridd ein dynoliaeth gyffredin.
Yn ein hymdrechion, pâr i ni gofio bod gwir gryfder i’w gael mewn bregusrwydd,
pan fo cariad yn newid ein hofnau i fod yn noddfa i bawb. Amen.
Duw cariad,
Wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Bendithia ni wrth i ni weinidogaethu yndy enw a dangos dy gariad.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw cariad,
Wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Helpa ni i weld drwy'r tywyllwch a deall oddifri sut gymaint rwyt ti'n ein caru ni.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 44
Hollalluog Dduw,
wyt yn dangos i’r sawl sydd ar gyfeiliorn
lewyrch dy wirionedd,
er mwyn iddynt ddychwelyd i ff ordd cyfi awnder:
caniatâ i bawb a dderbynnir
i gymdeithas crefydd Crist,
wrthod y pethau hynny
sy’n wrthwyneb i’w bedydd,
a chanlyn yn ff ordd Iesu Grist ein Harglwydd;
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes