Gweddïau: Sul o flaen Y Garawys
Sul y Gweddnewidiad ~ Cwincwagesima
Duw'r bydysawd,
mae dy ogoniant yn disgleirio trwy Iesu.
Helpa ni i wrando ar Iesu, dy Anwylyd,
er mwyn i ti ymhyfrydu ynom ni.
Dyma’n gweddi yn nerth
yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw yn y nefoedd,
mae dy ogoniant yn disgleirio trwy Iesu.
Helpa fi i wrando ar Iesu, yr Etholedig
fel y gallaf ganfod dy ewyllys i fi.
Dyma fy ngweddi yn enw Iesu. Amen.
Colect 37
Hollalluog Dad,
y datguddiwyd dy Fab mewn mawredd
cyn iddo ddioddef angau ar y groes:
dyro inni ras i ganfod ei ogoniant,
fel y cawn ein cryfhau i ddioddef gydag ef
a’n newid o ogoniant i ogoniant
i fod yn debyg iddo ef;
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr a hyd byth.