Gweddïau: Trydydd Sul cyn Y Garawys
Dduw pob Tymor,
diolchwn i ti am yr holl fendithion,
mawr a bach, yr wyt yn eu tywallt arnom beunydd.
Mae rhai o’th fendithion yn amlwg, sef bywyd, iechyd, bwyd a dŵr, dillad a chysgod,
perthynas a gwaith ystyrlon,
ond mae cymaint o’th fendithion a’th roddion yn anamlwg,
a diochwn yn awr am y rheini hefyd.
Gan ein bod yn bobl fregus mae’n hawdd digalonni pan fydd bywyd yn taflu ei heriau atom.
Cynorthwya ni i ystyried mai cyfle yw pob gwae i droi atat ti mewn ffydd,
oherwydd mai ti yw Duw ac nid nyni.
Nid oeddem yno pan greaist y nefoedd a’r ddaear a rhyfeddodau lluosog y dyfnderoedd
ac nid oeddem yno pan gafodd Iesu ei wawdio a’i fflangellu a’i hoelio i’r groes.
Ond yr ydym yma nawr, a thithau hefyd,
felly Arglwydd helpa ni i weddïo mewn amser o wynfyd ac adfyd,
drwy Iesu Grist ein Harglwydd,
a ffurfiwyd ar wedd dynion
a thrwy hynny a brofodd bleserau a thrallodion bywyd. Amen.
Duw yn y nefoedd,
Helpa ni i fod yn ymwybodol o’r pethau sy’n rhwystro ein perthynas â thi.
Anfona dy Ysbryd i’n hiacháu er mwyn gwella ein perthynas â thi,
er mwyn i ni allu llawenhau a llamu o orfoledd!
Dyma’n gweddi yn nerth enw’r Iesu. Amen.
Duw'r bydysawd,
helpa ni i ddangos dy gariad drwy ein bywydau,
fel y gallwn ddod â’th oleuni a’th flas i'n cymunedau.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 33
Hollalluog Dduw,
ti yn unig all ddod â threfn
i chwantau a serchiadau afreolus
y ddynoliaeth bechadurus:
dyro ras i’th bobl
i garu dy orchmynion
a deisyfu dy addewidion;
fel, yn aml droeon y byd hwn,
y sefydlir ein calonnau’n ddiogel
lle mae gwir lawenydd i’w gael;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.