Gweddïau: Trydydd Sul Yr Ystwyll
Arglwydd Iesu,
a eneiniwyd gan yr Ysbryd i ddwyn newyddion da:
clyw ein gweddïau dros bobl ormesedig y byd;
dros y rhai sy’n gaeth i’r pwerus neu sydd heb y rhyddid i gyflawni eu hunain;
dros y rhai sy’n rhwym yng ngafael eu heuogrwydd a’r rhai sy’n methu â gweld daioni.
Bendithia’r rhai sydd ag angen profi’r gobaith y daethost ti i’w roi,
wrth iddynt ymdrechu i ofalu am anwyliaid ynghanol rhyfel a thywallt gwaed,
neu’n unig i fwydo eu plant a thalu eu dyledion.
Dyro inni’r gras i ddirnad anghenion eraill,
ac i ymdrechu i gwrdd â’r anghenion hynny yn dy enw di. Amen.
Duw'r bydysawd,
Cyhoeddodd Iesu dy gariad at bobl mewn gwir angen.
Helpa ni i ddarganfod y bobl hyn yn ein hardal ni a'u gwasanaethu.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw'r bydysawd,
bydded i’th bobl ddisgleirio â llewyrch gogoniant Iesu,
er mwyn i bawb adnabod Iesu, ei addoli,
ac ufuddhau iddo hyd eithafoedd y ddaear;
Dyma’n gweddi yn nerth
yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 23
Hollalluog Dduw,
y datguddiodd dy Fab mewn arwyddion a gwyrthiau
ryfeddod dy bresenoldeb achubol,
adnewydda dy bobl â’th ras nefol,
ac yn ein holl wendid
cynnal ni â’th allu nerthol;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.