Gweddïau: Trydydd Sul Y Garawys
Ffynhonnell Ddwyfol o Gariad,
yng nghanol anawsterau bywyd, arwain ni i oedi a gwrando’n fewnol ar rodd fawr a llais addfwyn yr Ysbryd Glân.
Diolchwn am dy fab annwyl, ein Harglwydd Iesu,
a wynebodd ein diffygion a'n hofnau gyda charedigrwydd angerddol a oedd hyd yn oed yn fwy nag eiliadau tywyllaf bodolaeth,
ac a ddangosodd i ni nad yw Dy ymateb yn y pen draw yn gondemniad ond yn wahoddiad i iachâd a chyflawnder.
Ar ein taith, helpa ni nid yn gymaint i roi caredigrwydd ond i ymgorffori caredigrwydd,
nid yn gymaint i ddweud y gwir ond i ymgorffori cyfiawnder,
nid yn gymaint i gynnig cariad ond i ymgorffori cariad,
gan greu byd sy'n adlewyrchu dy heddwch. Amen.
Duw nefoedd a daear,
wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Helpa ni i ddatblygu a thyfu fel dy bobl
er mwyn i ni ddwyn ffrwyth da i'th Deyrnas.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Duw nefoedd a daear,
wrth i ni deithio i Jerwsalem,
cadw ein golwg ar Iesu.
Cryfha ni â Dŵr Bywyd,
er mwyn i'n bywydau anhunanol fod yn
ganeuon o fawl mewn ysbryd a gwirionedd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 46
Hollalluog Dduw,
nad aeth dy Fab anwylaf
i fyny i lawenydd
cyn iddo yn gyntaf ddioddef poen,
na mynd i mewn i’r gogoniant
cyn iddo gael ei groeshoelio:
caniatâ yn drugarog i ni,
gan gerdded ff ordd y groes,
ganfod nad yw’n ddim arall
ond ffordd bywyd a thangnefedd;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes