Gweddïau: Thomas Burgess (1837), Esgob Tyddewi ac Athro'r Ffydd
19 Chwefror
Dduw tref a gwlad,
diolchwn am Thomas Burgess a fu’n esgob Tyddewi
ac a sefydlodd goleg prifysgol yn Llanbedr Pont Steffan i hyfforddi clerigion i weinidogaethu yng Nghymru
ar sail yr egwyddor deilwng y dylai clerigion fod yn addysgedig ac yn ddiwylliedig i borthi’r defaid.
Diolchwn am ei gonsyrn am yr amgylchfyd a’i harweiniodd i weithio i sefydlu’r Coleg Milfeddygol Brenhinol
i wella gofal a thriniaeth anifeiliaid claf.
Rhoddwn ddiolch am iddo dalu sylw diwyd i’r celfyddydau yng Nghymru
a’i hysgogodd i gefnogi’r cymdeithasau Cymroaidd a’r Eisteddfodau
ac am iddo ymddiddori mewn gwahanol feysydd
o ddiwydrwydd oherwydd iddo weld dy harddwch di ym mhob peth.
Gweddïwn am i ti ein cyffroi ni i’th geisio di ar hyd llwybrau bywyd,
i weld ôl dy law ar bob creadur
ac i weithio am welliant lle canfyddwn fai,
fel y gallwn lawenhau yn y bywyd a roddaist inni,
er gogoniant i’th enw. Amen.
Colect 164
Dad hollalluog,
y rhoes dy Fab orchymyn i ni i ddeisyf arnat
anfon gweithwyr i’r cynhaeaf:
caniatâ, gan ddilyn esiampl dy was Thomas,
i ninnau gyfrannu o’n heiddo
tuag at hyff orddi’r rhai a fydd yn gweinidogaethu
yn enw yr hwn
gyda thi a’r Ysbryd Glân
sydd yn byw ac yn teyrnasu byth bythoedd.