Gweddïau: Timotheus a Titus, Cymdeithion Paul
26 Ionawr
Colect 154
Dad nefol,
rhoddaist dy weision Timotheus a Titus
i fod yn gymdeithion i’th apostol Paul,
ac i rannu gydag ef ym mhregethu’r efengyl
ac adeiladu’r Eglwys:
trwy ein cymdeithas yn yr Ysbryd Glân
caniatâ i ni dystiolaethu i enw Iesu,
sy’n fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn Dduw yn dragywydd.