Gweddïau: Dydd Mawrth yr Wythnos Fawr
Duw cariad,
wrth i ni deithio i’r Groes,
cadw ein golwg ar Iesu.
Hyd yn oed pan fydd ein
henaid mewn cynnwrf,
helpa ni i wybod ein bod ni'n
cerdded yn dy oleuni o hyd.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.