Gweddïau: Seiriol (6ed ganrif), Abad Cymreig
3 Chwefror
Dduw Sanctaidd,
y rhoddodd dy fab bendigaid, Seiriol,
ei fraint ddaearol o’r neilltu i ddilyn bywyd mynach a meudwy
ac a oedd gyda’i gyfaill enaid, Cybi, yn ffagl i bererinion yng ngogledd Cymru;
cynorthwya ni i ymwrthod â’r pethau sy’n tynnu ein sylw oddi ar dy alwad di ar ein bywyd.
Bendithia ni â ffrindiau goleuedig sy’n cefnogi ein galwadau,
a bydded i’th lewyrch ddisgleirio yn ein bywyd fel y denir eraill i geisio dy oleuni,
drwy Iesu Grist, ein Harglwydd a Goleuni’r byd. Amen.
Colect 159
Hollalluog Dduw,
trwy dy ras taniwyd Seiriol
â fflam sanctaidd dy gariad
a daeth yn oleuni i losgi’n llachar yn dy Eglwys:
cynnau ynom ninnau yr un ysbryd
o ddisgyblaeth a chariad,
fel y cerddom o’th flaen
yn blant y goleuni;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.