Gweddïau: Tathan (6ed ganrif), Abad Cymreig ac Athro'r Ffydd
30 Rhagfyr
Colect 335
Hollalluog Dduw,
trwy dy ras
daeth Tathan a daniwyd gan fflam sanctaidd dy gariad
i fod yn oleuni’n llosgi a disgleirio yn yr Eglwys:
cynnau ynom yr un ysbryd o ddisgyblaeth a chariad,
fel y cerddom o’th flaen yn blant y goleuni;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes