Gweddïau: Dydd Gŵyl Yr Ystwyll
6 Ionawr
Dad Nefol, fel y nesawn at yr Ystwyll,
boed inni ailedrych ar ein perthynas â thi:
Na fydded inni fod fel Herod yn gwrthwynebu’n llwyr;
Na fydded inni fod fel Athrawon y gyfraith yn oeraidd o ddifater;
Ond byddwn fel y Doethion, a’n perthynas yn un o addoliad llwyr.
Gweddïwn rhag inni roi ein hail-orau
ond, yn hytrach, roi’r gorau sydd gennym.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu. Amen.
I’w ddefnyddio ar Ŵyl yr Ystwyll a thrwy gydol y Tymor.
Ac yn awr dathlwn ddatguddiad dy ogoniant
a amlygwyd drwy’r Gair a ddaeth yn gnawd.
Addolodd y doethion ef yn frenin yr holl genhedloedd.
Ar lan yr Iorddonen gorchmynnaist ni i wrando ar dy annwyl Fab
wrth iddo gyfodi o ddŵr y bedydd.
Yng Nghana amlygodd ei allu i ddatguddio’r greadigaeth newydd
yn y dŵr a drowyd yn win.
Ef yw’r eneiniog, dy Feseia di
sy’n dwyn gobaith ac iachawdwriaeth i’r byd. Amen.
O Dduw Tragwyddol,
trwy oleuni seren arweiniaist y cenhedloedd
at ddisgleirdeb gwawrddydd dy Fab
a datguddiaist gyfoeth ei genhadaeth yn rhoddion y Doethion.
Gwrando ar y gweddïau a offrymwn yn ei enw,
y cesglir pawb ynghyd
i fwynhau am byth ogoniant dy Fab, ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen.
Amserau a Thymhorau: Adfent i Gyflwyniad Crist
Duw'r bydysawd,
Arweiniaist bobl o bell i ddod
â rhoddion gwerthfawr ac i addoli’r Iesu.
Helpa ni i wasanaethu’r Iesu gyda'r holl roddion
rwyt ti wedi eu rhoi i ni,
er mwyn i ni adeiladu teyrnas Iesu yma ar y ddaear.
Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Colect 17
O Dduw graslon,
a amlygaist dy unig Fab
i bobloedd y ddaear,
trwy arweiniad seren:
arwain ni, sy’n dy adnabod yn awr drwy ffydd,
i’th bresenoldeb sanctaidd
lle y cawn ganfod dy ogoniant wyneb yn wyneb
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes