Gweddïau: Enwi Iesu
1 Ionawr
Arglwydd Dduw coffawn heddiw enwi dy Dy Fab Iesu a ddaeth i fod yn Waredwr y byd.
Am mai drwy Ei Enw ef yn unig y cawn ein gwaredu,
helpa ni i gyhoeddi dy Enw drwy’r holl fyd. Amen.
Gogoneddus wyt ti, Arglwydd, Duw amser a gofod,
creawdwr y byd,
cynhaliwr pob peth sy’n bod.
Datguddiaist dy hun drwy amserau a thymhorau,
drwy rythm bywyd
a threiglad y blynyddoedd,
i bobl o bob cenhedlaeth, yr ifanc a’r hen.
Bendithia ni wrth i ni ymgynnull i weddïo,
a chadw ni drwy’r flwyddyn sydd i ddod
fel y gallom ymgysegru o’r newydd i ddilyn dy Fab, a anwyd o Fair,
ac anrhydeddu ei enw drwy dystiolaeth ein bywydau,
oherwydd y mae ef yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn oes oesoedd. Amen.
Hollalluog Dduw,
creawdwr pob blwyddyn newydd a chynhaliwr ei holl ddyddiau,
yr wyt yn arwain pob peth i’w llawnder terfynol ynot ti.
Pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonaist dy Fab, wedi ei eni o wraig, er mwyn i ni
gael braint mabwysiad a bod yn blant i ti.
Llenwaist ein calonnau ag Ysbryd dy Fab fel y gallwn lefain, “Abba! Dad!”
Bendithia ni a chadwa ni yn y flwyddyn sydd i ddod.
Bydded i’r Arglwydd lewyrchu ei wyneb arnom a bod yn drugarog wrthym
fel y bo i’th dangnefedd grasol breswylio yn ein calonnau a’n bywydau.
Gofynnwn hyn drwy ein Harglwydd Iesu Grist, dy Fab,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw yn oes oesoedd. Amen.
O godiad haul hyd ei fachlud
yr wyt yn casglu pobl atat ti dy hun, O Dduw.
O wawrddydd blwyddyn newydd
tan dywyllwch ei therfyn
bydd dy law gadarn yn arwain ac yn cynnal,
oherwydd ti yw Creawdwr pob peth sydd yn bod,
ac mae dy Ysbryd yn anadlu bywyd i bopeth sy’n rhoi gogoniant i ti.
Bendithia ni wrth i ni ymgynnull yn enw dy Fab,
fel y bydd y flwyddyn newydd hon sy’n llawn o obaith
yn cyflawni dy addewidion ac yn dwyn ffrwyth dy deyrnas
a wawriodd yng ngostyngeiddrwydd genedigaeth Iesu Grist,
oherwydd ef yw Immanuel, Duw gyda ni,
ac y mae yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Colect 142
Hollalluog Dduw
yr enwaedwyd dy Fab bendigedig,
mewn ufudd-dod i’r gyfraith er ein mwyn,
gan roi iddo’r Enw sydd uwch law pob enw;
dyro i ni ras i arddel ei Enw’n ff yddlon,
i’w addoli yn rhyddid yr Ysbryd
ac i’w gyhoeddi’n Iachawdwr y byd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu
gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr a hyd byth.