Gweddïau: Thomas Becket (1170), Archesgob Caergaint a Merthyr
29 Rhagfyr
Colect 334
Arglwydd Dduw,
a roddaist ras i’th was Thomas
i roi heibio pob ofn daearol a bod yn ff yddlon hyd at angau;
caniatâ i ni, gan ddiystyru parch bydol,
ymladd yn erbyn pob drwg,
cynnal dy drefn di a’th wasanaethu di hyd ddiwedd ein hoes;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes