Mathias, Apostol
Dydd Mercher 14 Mai 2025
Prif Wasanaeth:
Ar ôl i Judas Iscariot fradychu Iesu, adferodd yr apostolion eu nifer i ddeuddeg trwy ddewis Mathias i gymryd ei le. Fe’i dewiswyd trwy fwrw coelbren ar y disgyblion. Y mae awdur Actau’r Apostolion yn gweld swydd apostol mewn ffordd wahanol i’r modd y gwêl Paul hi, fel pe bai’n adlewyrchu dealltwriaeth efengyl Luc. Rhaid oedd adfer y nifer fel y gallai’r deuddeg apostol “eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel”. Roedd hi’n amod fod pob apostol wedi bod gydag Iesu yn ystod ei weinidogaeth ddaearol ac wedi bod yn dyst i’r atgyfodiad. Pwrpas dewis trwy fwrw coelbren, yn hytrach na thrwy ddull democrataidd, oedd dangos mai Duw, nid meidrolion, oedd yn ethol neu’n dewis.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: