Steffan - Diacon a'r Merthyr Cyntaf
Dydd Iau 26 Rhagfyr 2024
Prif Wasanaeth:
Yn Llyfr Actau’r Apostolion enwir Steffan ymhlith y saith diacon a benodwyd i ofalu am y gweddwon yn yr Eglwys fore yn Jerwsalem. Gwnaeth araith huawdl gerbron y Sanhedrin, yn dangos bod holl hanes yr Iddewon yn arwain at eni Iesu, ac yn ymbil ar i bawb gael clywed newyddion da Iesu, y Meseia hir-ddisgwyliedig. Canlyniad anochel hynny oedd ei ferthyru trwy ei labyddio. Y mae disgrifiad Luc, awdur Llyfr yr Actau, ohono yn cyfateb yn uniongyrchol i’w ddisgrifiad o Grist: er enghraifft ei ddioddefaint; ei lenwi â’r Ysbryd Glân; gweld Mab Duw ar ddeheulaw Duw, fel yr addawodd Iesu y byddai; cyflwyno’i ysbryd i Iesu, fel y cyflwynodd Iesu ei ysbryd i’w Dad; penlinio fel y gwnaeth Iesu yng ngardd Gethsemane a gofyn am faddeuant i’w erlidwyr. Ystyria Luc mai hanfod y bywyd Cristnogol yw tystio i Iesu trwy ymddwyn ym mhopeth yr un fath â Iesu.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: