Yr Holl Sant
Dydd Mercher 1 Tachwedd 2023 (Gelir ei ddathlu ar Sul cyntaf Y Deyrnas)
Prif Wasanaeth:
Ers ei dyddiau cynharaf cydnabu’r Eglwys fel ei meini sylfaen arwyr y ffydd yr ysbrydolodd eu bywydau eraill i fyw’n sanctaidd, gan gredu bod yr Eglwys ar y ddaear mewn cymundeb â’r Eglwys yn y nefoedd.
Yn y bedwaredd ganrif y dechreuwyd dathlu Gŵyl yr Holl Saint. Ar y dechrau, fe’i cedwid ar y Sul ar ôl y Pentecost, er mwyn cysylltu’r disgyblion a dderbyniodd ddawn yr Ysbryd Glân ar y Pentecost, gŵyl ‘sefydlu’r Eglwys’, â’r disgyblion hynny a fu’n ferthyron ac a roddodd eu bywyd i dystio i’w ffydd. Ar 1 Tachwedd, rywbryd yn yr wythfed ganrif, cysegrodd y Pab gapel i’r Holl Saint yn Eglwys Sant Pedr yn Rhufain. O fewn canrif, cedwid y diwrnod hwn yn Lloegr ac Iwerddon fel Gŵyl yr Holl Saint.
Bucheddau’r Saint allan o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam, Cymdeithas Sant Ffransis
Gweld yr wythnos lawn: