Barnabas, Apostol
(Y Sul cyntaf wedi'r Drindod)
Dydd Sul 11 Mehefin 2023
Prif Wasanaeth:
Er nad yw ymhlith deuddeg apostol yr efengylau, y mae Barnabas yn un o apostolion pwysicaf Llyfr yr Actau. Am fod popeth i’w ddal yn gyffredin, gwerthodd ei ystâd a rhoi’r elw i’r Eglwys ac mae’n amlwg iddo ddod yn arweinydd. Fe’i disgrifir fel Lefiad o Gyprus. Perthynai, felly, fel ei gyfaill, Paul, i’r byd Groegaidd, nid i Balestina, ac ef a gyflwynodd Paul i arweinwyr yr Eglwys yn Jerwsalem. Fe’i hanfonwyd i Antioch i gyfarwyddo’r Cristnogion yno, fe ymddengys, yn eu hymwneud â rhai a gafodd dröedigaeth nad oeddynt yn Iddewon a hyrwyddodd y syniad bod pawb yn un yng Nghrist. Ymadawodd â Paul a mynd i Gyprus a dywed traddodiad ddarfod ei ferthyru yno yn y flwyddyn 61.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: