Tröedigaeth Paul, Apostol
Dydd Mercher 25 Ionawr 2023
Prif Wasanaeth:
Adroddir am dröedigaeth y selot gwrth-Gristnogol Saul i fod yn Paul, apostol Crist, yn y darlleniad o Actau’r Apostolion, ond rhaid cofio mai dim ond dechrau oedd hynny. Bu peth amser cyn i Saul ddod yn Paul a dechrau deall bod ei alwad i bregethu – i Iddew a Chenedl-ddyn – allu achubol Iesu, Mab Duw, yn rhywbeth a fyddai’n daith oes iddo. Yn ei lythyr at yr Eglwys yn Galatia, dywed Paul i Dduw ei neilltuo ‘o groth fy mam’ a’i alw ‘trwy ei ras’ … ar ôl tair blynedd (yn dilyn y dröedigaeth ar Ffordd Damascus), mi euthum i fyny i Jerwsalem’. Paratoad at y dröedigaeth hon fu ei holl fywyd. Dathlwyd yr ŵyl hon yn yr Eglwys ers y chweched ganrif; daeth yn ddathliad cyffredinol yn y ddeuddegfed ganrif.
Bucheddau’r Saint o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: