Gŵyl y Grog
Dydd Iau 14 Medi 2023
Prif Wasanaeth:
Mae’r groes y croeshoeliwyd ein Harglwydd arni wedi dod yn symbol cyffredinol i Gristnogaeth ym mhedwar ban byd, gan ddisodli symbol pysgodyn yr eglwys gynnar, er bod hwnnw wedi gweld adfywiad o fath yn ddiweddar. Ar ddiwedd yr oes o erledigaeth, yn nechrau’r bedwaredd ganrif, dechreuodd pererinion deithio i Jerwsalem i ymweld â’r mannau a oedd yn gysylltiedig â bywyd Iesu, a gweddïo ynddynt. Roedd Helena, mam yr ymerawdwr, yn Gristion ac, wrth oruchwylio gwaith cloddio yn y ddinas, dywedir iddi ganfod croes, a chredai llawer mai Croes Crist oedd hi. Adeiladwyd basilica ar safle’r Beddrod Sanctaidd ac fe’i cysegrwyd ar y dydd hwn yn y flwyddyn 335.
Gweld yr wythnos lawn: