Iago, Apostol
Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 2022
Prif Wasanaeth:
Pysgotwr o Galilea oedd Iago, a elwir yn aml yn ‘Iago Fawr’. Ef a’i frawd, Ioan, oedd yr apostolion cyntaf a alwodd Iesu i’w ddilyn. Yr oedd y ddau frawd gydag ef adeg y Gweddnewidiad ac eto yng ngardd Gethsemane. Codasant wrychyn ei ddilynwyr eraill trwy ofyn am gael eistedd y naill ar ei law dde a’r llall ar ei law chwith pan ddeuai i’w ogoniant. Yr oeddent yn bresennol i dystio i’w ymddangosiadau ar ôl yr atgyfodiad. Lladdwyd Iago â chleddyf ar orchymyn Herod Agrippa, a obeithiai’n ofer y gallai, trwy gael gwared ar yr arweinwyr Cristnogol, rwystro pobl rhag clywed y newyddion da a dod yn bobl y Ffordd. Credir i Iago gael ei ferthyru yn y flwyddyn 44.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: